Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur a chwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion,—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.


Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau[1]
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion?[2]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd
Gwên nef a gafodd gan Naf gyfion.


Gwawdodyn Hir.

A fyno gyrhaedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.


Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da'i ofalon;
Siôr a garai îs aur goron;
Lle b'ai gwaethaf llu bygythion,
Ni chai'r anwir drechu'r union;
Dra gallawdd, nadawdd[3] i anudon—dorf
Lwyr darfu'r lledneision.[4]


Dau Doddaid.

Bu'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog,
I'w hydr eneiniog deyrn union;
Rhyngodd ei fodd â'i ufuddion—swyddau,
A chwys ei aeliau â chysulion.[5]


  1. [Telmau—math o faglau.]
  2. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo enyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau amgen na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
  3. [Ni adawodd.]
  4. Lluosog am llednais, mwyn, tyner, gweddaidd.
  5. Ffurf i'r gair counsells.