Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth[1] i dir Albion.[2]


Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;[3]
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd O'i hynawsedd a'i hanesion;
Ni chair hafal Wr a chystal ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd[4] enau, wiw 'mddiddanion.


  1. Areulbarth, sef y Dwyrain, neu godiad haul.
  2. Enw yr ynys cyn dyfodiad Prydain, oedd ynys Albion, hwnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt (fe allai) o lin y Titaniaid neu Celta, cynfrodorion Ffrainc o Phrydain, a meibion oeddynt i Neptun, medd Pompenius, Mela, ac eraill awduron Rhufeinig; sof lyngesyddion dewrion, nc agatfydd mor-wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai daw'r moroedd oedd Neptun, a'u gorchfygu eill dan a wnaed, medd yr un Awduron, gan ryw Erewlff (nen Hercules) nis gwyddis pa'r an, gan fod amryw o naddunt; of a allai mai pen lloyddwr Brewlff oedd Prydain, a gorchfygu o hono Albion Gawr, a goresgyn el ynys a'i galw with ei enw ei hun, YNYS PRYDAIN; fel na Li YNYS ALBION o'r blaen; ond coelled pawb y clawedl a fyno,
  3. Efallai y tybir hyn yn rhy eofn i'w dywedyd am ddyn daearol, er ei laned, eithr araith gynefin gan Homer tad yr awen oedd, Dæmonios, &c., a'r cyfryw; y rhai ydynt o'r un ystyr a phryd nefolion, ac y mae llyfr y Trioedd yn son am un a elwid Sanddef bryd Angel, oherwydd ei lendid.
  4. Meddaidd, hyny yw peraidd; o'r gair medd y daw.