Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwaed ffráu,[1] a ffrydiau dagrau digron,
A chûr marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw[2] fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.

Eiddunaf finau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu[3] i geisio perwawd[4] gyson
I lwyswawd eirioes Lewis dirion,
Cywyddau, cu odlau cydlon,—ganu,
Lle myno Iesu—lleu Monwysion.

Yr awdl hon a gant GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl AMERICA; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg, er ys gwell na deng mlynedd.Gorphenaf 20, 1767.

  1. Gwaedlif.
  2. Lliw gwaed
  3. Prydyddu.
  4. [ Sweet praise.]