Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hori Satan rhag ymgyfeillachu â'r "gŵr " a ddesgrifid ganddo:—

Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef,
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.

Ond, oddiwrth yr arwyddion hyn o gâs, gallwn droi at arwyddion diamheuol o gariad. Mor dyner yw yr ysbryd a anadla hiraeth am ei wlad a'i genedl mewn amryw gywyddau o eiddo'r bardd! Y mae ei "Ateb i Annerch Huw ap Huw," yn ein tyb ni, cystal a nemor ddim a gyfansoddodd, yn enwedig mewn cynllun, ac angerddoldeb. Dyma gerdd ymadawol Cymro diledryw i wlad ei dadau, a'r Ynys yr hiraethodd gymaint am gael dychwelyd iddi. Siomiant a gafodd ar ddechreu ei yrfa, a dyna a'i dilynodd drwy ei oes. Bu yn preswylio yn Lloegr, a'i galon yn Môn! Bu am flynyddoedd yn disgwyl i ffawd ei arwain yn ol dros y Fenai. Ond Ow! chlywodd hi mo'i ocheneidiau, ac ni wrandawodd ei gri. Erbyn hyn mae ei obaith wedi blino'n disgwyl, ac ymollynga i'w dynged. Dechreua ei gerdd mewn ymostyngiad gerbron Duw, gan ei gydnabod Ef fel ffynonell pob da a pherchen. pob clod:—

O farddwaith ôd wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl,
Emynau'n dâl am einioes
Ac Awen i'r Rhên a'u rhoes.

Anadla y dymuniadau mwyaf difrif—ddwys am allu cyflawni ei weinidogaeth yn iawn, ac edrycha tua'r Farn gydag arswyd wrth sylweddoli ei gyfrifoldeb i ddynion a Duw:—

 
Ateb a fydd rhyw—ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.

Mae ei eiriau yn llosgi mewn sel dros ogoniant Duw, ac yn erbyn balchder dynion a fynent ladrata y clod dyledus iddo Ef:—

Ein Perchen iawn y parcher:
Pa glod sy'n ormod i Nêr?
*****
Gwae rodres gwyr rhy hydron!
Gwae leidr a eirch glod yn Ion!