Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llefara y bardd fel prophwyd o dan ysbrydoliaeth o'r nef, ac edrycha ar bobpeth oddiar safbwynt uchel un yn gweled Duw, gan ymostwng iddo am y sydd, ac ymddiried iddo am a ddaw. Beth bynag allai fod ei ofid ef oherwydd colli ei Fon, ni fyn gredu ei bod yn anffawd i Fon ei golli ef:—

Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi.
Cerais fy ngwlad geinfad gu—
Cerais, ond ofer caru!

Cyfyd o flaen ei feddwl y llu enwogion fuont o dro i dro yn ogoniant i'r Ynys:—

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?

Ond mae angau wedi ateb yr her gyda'r nifer luosocaf o'r cewri hyn. Eto, y mae Mon yn derbyn "eppil" y mawrion o hyd, a'i gogoniant yn parhau. Cyfyd y bardd o'r diwedd i'r fath uchelbwynt mewn teimlad hiraethlawn, fel ag y geilw ar y dòn i ddystewi, er mwyn i Fon glywed ei eiriau olaf wrthi! Gwna i ni sylweddoli distawrwydd synllyd, a chlywn yntau, gyda galar yn ei galon, a dagrau ar ei rudd, a chryn— dod yn ei lais, yn llefaru:—

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.

Yn mhen ysbaid, teimla ei ysbryd yn llesgau, a llewyg yn d'od drosto:—

Bellach, f'ysbryd a ballawdd.

Modd bynag, cafodd nerth i orphen ei anerchiad ymadawol i'w fam-ynys gyda llinellau a fyddant byw am lawer oes. Bu yn hir yn gobeithio cael byw yn ei Fon; ond erbyn hyn nis gall obeithio cael bedd ynddi:—

Poed yt hedd pan orweddwyf
Yn mron llawr estron lle'r wyf!
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen i orwedd ynod!

Eto, ymeifl mewn dymuniad uwch na chael bedd yn naear Mon, ac y mae ei ffydd yn enill iddo fuddugol—