Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BARDDONIAETH

GORONWY OWEN.


ENGLYNION I DDUW.

A ganwyd ychydig cyn myned i Rydychen, 1741.

Duw Tad, un (o'th rad) a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred—clyw fy nghri.

Dy eiriau, Ion clau, clywais,—yn addo
Noddi pawb a'th ymgais;
Ymagored (mi gurais)
Y Nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist (i'th nerthog allu—nid yw boen)
Wneud y byd a'i brynu,
Yn D'wysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—Dy weision,
Dewisaist eu noddi;
A minau wyf, o mynni,
Duw Iesu dêg, dy was Di.

Gwaelaidd gynt yn bugeilio—fu Moesen[1]
Ym maesydd hen Jethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.


  1. Moses