Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu;
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn[1] wen;
Mwynach (pe Duw a'i mynnai)
Neu fid it' o lendid lai.
Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar o ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it' ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[2] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael—gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma:—
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth da im' ei wrthod,
Dydd Merchur garw gur ac ôd;
Dydd Iau diau a fu deg,
Och, Wener! gwlaw ychwaneg;
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych;
Rhew ydoedd a rhuadwynt—
O berfedd y gogledd, gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais.
Cnithio'n[3] gras ar y glaswydr
A'm bys, gydag ystlys gwydr;
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym'.
Yno gelwais (â llais llwfr,
Rhag cwn a pheri cynhwrf):—
"Mari fwyn, mawr yw f'anwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;

  1. "Dyn" arferid gan yr hen feirdd am y ddau ryw.
  2. Siom
  3. Cyffyrddiad tyner—"Ni th'rawai gnith â'r ewin, na bai lais gwell na blûs gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr,