Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro, gysgadur diffrwyth."

Galwad ond heb ateb, oedd;
Mudan fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dol dryntol[1] y drws:
Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn[2] o fewn, cilio'n f'ol.
O'r barth yn cyfarth, y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drwmswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, "Hai "!
Llemais, â mawr ffull, [3] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd twyn y clogwyni,
Perthfryn, lle na'm canlyn ci.
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch);
Cerdded rhag ofn gweled gŵyll[4]
Grebach (na bo'nd ei grybwyll! )
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg ysbryd, drygiawg aspri.
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro cyrhaedd adref;
Wrthyf fy hun eiddunaw,[5]
Yn frau, i wellhau rhag llaw;

  1. Dryntol.—Gair arferedig ym Mon am handle drws.
  2. Cenaw ci.
  3. Brys.
  4. Enw ar un o ddrychiolaethau yr hen Gymry.
  5. Addunedu,