Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cefais o'm serch ddyferchwys,
Oer fraw, ac nid af ar frys
I'w chyfarch, on'd arch, nid af.
Diowryd[1] yw a doraf,
Af unwaith i Eifionydd—
Unwaith? Un dengwaith yn 'dydd.
Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf;[2]
Dodaf fy ffon unionwymp
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp;
Aed lle'r êl, ni ddychwelaf—
Ar ol y dderwen yr af.

ENGLYN AR DDYDD CALAN.

Dydd Genedigaeth y Bardd, 1746.

HYNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd;
Ond am a ddaw—baw i'r byd!


CYWYDD I'R CALAN.

(Sef dydd genedigaeth y Bardd a'i fab hynaf), yn y flwyddyn 1752.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 45.]

CYN bod gwres i'r tesfawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd[3]
Olau teg a elwid dydd;

  1. Diowryd—Llw, neu gyfamod, a hunangosp yn dilyn ei dori.
  2. Hen Goel. Pan ddeuai ymdeithydd i groes- ffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.
  3. Enw ar y Creawd wr—y Dywedydd, neu y Perydd.