A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd,
Cywraint fysedd a neddair! [1]
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau;
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig. [2]
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer o ser nefoedd,
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion, [3]
Llun y Llong, [4] a'i ddehonglyd,
Arch No, [5] a'i nawdd tra bawdd byd,
A'r Tewdws,[6] dwr ser tidawg,
A thid[7] nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd,
Nifer fawr o wychder oedd;
Ac er lloer wen ysplenydd,
Nid oes dim harddach na dydd,
Gwawl unwedd a goleunef,
Golau o ganwyllau nef.
Oes a wâd o sywedydd
Lle dêl, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod;[8]
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod,
Oer syganed wres Gwener[9]
Pan êl i ias oerfel ser.
Duw deg lwys! da yw dy glod,
Da, Wirnaf, yw pob diwrnod;
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt;
Uchder trenydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe;
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/28
Prawfddarllenwyd y dudalen hon