Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nes it' draw neillduaw dydd
Dy hunan, da Wahanydd,—
Dy'gwyl, yn ol dy degwaith,
Yn gorphen ffurfafen faith;
Na chwynwn it, Ion, chwenych.
Dydd o saith, wedi'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod,
Sabboth ni chai was hebod
Mawr yw dy rad, wiwdad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion;
Da'r tro it' eu gwylio gynt,
Duw awdwr, a da ydynt;
Da dy Grog dihalogwyl, [1]
Dy Grog oedd drugarog wyl;
Er trymed dy gur tramawr,
Penllad yw'th Gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad,
Da iawn ydoedd d'Enwaediad.
Calan fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi.
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân;
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf!
Ar ddydd Calan y'm ganwyd,
Calan, nid anniddan wyd,
Gwaeth oedd genedigaeth Io,[2]
Diwrnod a gwg Duw arno.
Calan wyt ni'th cwliai[3]
Naf, Dwthwn wyt nas melldithiaf,
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed wyt; [4]
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddan a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt;
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,

  1. Gwyl y Groglith
  2. Job
  3. Beiai
  4. 30 oed.