Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf, anrhydeddaf di,
Tymhor nid drwg wyt imi.
Cofiaf Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad;
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[1] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd
Rhoi im' lân faban o fardd
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai dy obrwy,
Prydafi yt'; pa raid fwy?
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.

Aed y Calendr yn hendrist,[2]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfleda[3] pob mis o'i safle,
Ac aed a gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanaciwr;
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen:
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glŷn yna, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi Gwyl 'Ronwy
A phoed yn brif ddigrifwyl
I'r beirdd, newydd arab ŵyl;
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu;
Llead[4] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[5]

  1. Bywiog
  2. Cyfeiriad at symudiad y Calan o Ion. 12 i Ion. 1
  3. Symuded
  4. Darlleniad
  5. Red Letter Day