Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Minau, a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn,
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[1]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio;
Dwfr hoff redwyllt, ofer[2] a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso),—o chaf
Fon im'; yn benaf henwaf hono.

Ni wna f' arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[3] myr,[4] mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau;
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.


CYWYDD Y FARF. 1752.

[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 4].

CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir[5] boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion,
Yn fargod—da bod heb hon;

  1. Ei ddau fab
  2. Ffrwd o ddwfr croyw
  3. Tir
  4. Moroedd
  5. Dir—sicr