Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwsa'n[1] difwyno traserch;
Athrywyn[2] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
"Ffei o hon, hwt!"—ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân.
Briwio'i boch wrth ei llochi,
Och i'r rhawn ! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew;
Sofl a blyg, ond di syfil blew.
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur:
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fa! cangau coed;
Ffluwch[3] lednoeth, yn boeth y bo;
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.
Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwale yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch, gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn â charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y—rhydd ei hannedwydd nôd—
Briw cyfled, â lled ei llafn,
Llun osgo law anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wanaf[4] o waed;

  1. Trws—a truss
  2. Ysgaru
  3. Cudyn o wallt
  4. Cynyrch ergyd pladur