Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[1] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb.
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch—
Odid filyn, barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach;
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch;
Hortair[2] na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.

Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt;
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.
Bid pawb oll i'w harfolli,[3]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf.


  1. Ebrwydd
  2. Difri-air
  3. Croesawu