Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD I'R AWEN.

Ar ddull HORAS, Lib. IV., Ode III.

Quem tu, Melpomene, etc., 1752.

O CHAI fachgen wrth eni
(Wyd Awen dêg) dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth,
Prydu a wna, pa raid nerth?
Ni châr ffull na churo ffest,
Na chau dwrn, o chaid ornest;
O b'ai'n agwrdd benigamp,
Ni chais glod, gorfod y gamp.
Yn ei ddydde ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr;
Ni chyrch drin[1] na byddinoedd,
Ni char nåd blaen—gad a bloedd;
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith;
Na choryn hardd, ddigardd[2] ddyn,
Draw i gil o droi gelyn.
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw sein-gan gysongerdd,
Barddwawd fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o wlad fawr Fon.
Cymru a rif ei phrif-feirdd,
Rhifid ym Mon burion beirdd;
Cyfran a gaf o'u cofrestr,
A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr ;
Mawrair a gaf ym Meirion
Yn awr, a gair mawr Gwyr Mon;
Llaesodd, ar aball eisoes,
Cenfigen ei phen a ffoes.

  1. Rhyfel—"Yr hon a beris yr ha', a thrin rhwng
    Groeg a Throia."—DAFYDD AB GWILYM, i Elen Lueddog
  2. Digaeth. Canmoliaeth—"Canaf it' a datganaf wawd,"—aralleiriad EDMwND PRYS o Salm cviii. 1.