Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O, f'Awen dêg! fwyned wyt,
Di-odid dawn Duw ydwyt:
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysowen!
Dedwydd o'th blegyd ydwyf,
Godidog ac enwog wyf.
Cair yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy;
Caf arwydd lle cyfeiriwyf,
Dengys llu â bys lle b'wyf.

Diolch it', Awen dawel;
Dedwydd wyf, deued a ddel;
Heb Awen, baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.

IEUAN BRYDYDD HIR.[1]

A brydws FARWNAD I FFREDRIG TYWYSAWG CYMRU, ac Offeiriad Tregaron a ddywawd, Nad oedd ynddi nac iaith na chynghanedd; am hyny yr heriawdd yr Ieuan ef; a chanu o Oronwy i'r IEUAN fal hyn. 1752.

CWYNFAN a fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd ar goegni byd;
Tra fo llên ac awenydd,
A chân fwyn, achwyn a fydd.
Gwyfyn, du elyn dilyth
Awen, yw Cenfigen fyth;
Cenfigen ac awenydd
Yn mhob llin, finfin a fydd;
O dwf llawn, dwy efell y'nt,
O chredi, dwy chwaer ydynt;
Dwy na wnaed i dynu'n ol,
Dwy ydynt, pwy a'u didol?
Ni wneir o fron anaraul
Ond cysgod, er rhod yr Haul.

  1. Y bardd gorchestol a'r llenor gwych hwn a anwyd yn 1730; ac wedi oes hafal i'w gyfaill Goronwy o ran helbul a fu farw yn 1789.