Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A diwad ydyw, Ieuan,
Bron sydd na chydfydd â chân.
Wrth Homer wiw, gerddber gynt,
Gwyddost mor eiddig oeddynt;
Hurtaf o ddyn a'i hortiai,
Miwail[1] ei fydr, aml ei fai;
Gwael oedd ei gerdd, pencerdd per
Os coeliwn Soyl[2] ysceler.
Maro[3] a orug mowrwaith,
Bas y gwyl Bawas[4] y gwaith;
Ni pharchwyd gradd o naddun,
Mawr oedd cas Horas ei hun.
Er Dafydd, pwy'n wr difai
A fu 'rioed, na feiai rai?
Bu gylus gwaith Mab Gwilym,"[5]
A'i gerdd gref, agwrdd ei grym.
Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A bawddyn, er na byddai:
A diau, boed gau, bid gwir,
Buan ar fardd y beiir.
E geir, heblaw'r Offeiriad,
Gan' bron yn dwyn gwŷn a brad,
Milweis eiddig, mal Suddas,
Heb son am Dregaron gas.
Dos trwy glod, rhagod er hyn,
Heria pob coeg ddihiryn,
A dilyn fyth hyd elawr
O hyd y gelfyddyd fawr.
Od oes wyr â drygfoes draw,
Afrywiog i'n difriaw,
Cawn yn hwyr, gan eu hwyrion,
Na roes y ddihiroes hon.

  1. Esmwyth.
  2. Zoilus.
  3. Bardd Lladin.
  4. Bavius.
  5. Dafydd ap Gwilym.