Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawer can-torth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreu-Dduw,
Gynes weinidoges Duw.
Gwraig ddigymhar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged;
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball, yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth;
Dilys, lle b'ai raid eli,[1]
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aeth i nef a thangnefedd,
Lawenfyd, hawddfyd a hedd;
Nid aeth mad wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy:
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wa mil o'i hil hi.

Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes;
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael;
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg,[2] lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw[3] fwyn,

  1. Yr oedd Marged Morys yn lysieuwraig enwog.
  2. Yr amryddawn Lewys Morys, Mon.
  3. Celfydd.