Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diwyd warcheidwad Awen,
Oreu gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART, am gerdd ber hoywsain
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Anhebyg tra bo'n hybarch
Y Beibl[1] na bydd iddo barch,
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILLIAM?[2]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion.
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gŵraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant, fawl.
Da'r had na newid eu rhyw,
D'wedant ym Mon nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam,"
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw Iesu a'i dewisawdd;
Uniawn y farn wna fo,
Duw Funer,[3] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad.
Adref i oleunef wlad.

Gwae'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen Awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd.
Cynes i feirdd tra cenynt
Oedd canu ffordd Gymru gynt,

  1. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl, 1746 a 1752.
  2. Llysieuwr rhagorol
  3. Cynhaliwr.