Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chlêr er yn amser Nudd ;
Boed heddwch a byd dyddan
Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid ;
Newidio cân (enaid cu !)
Monwysion am un Iesu;
Clywed llef y côr nefawl,
Gwyn dy fyd-hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd,
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau cyhydlef.
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.
Dedwydd, O! enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dyco lle'dd wyt!
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[1]


CYWYDD I LEWIS MORYS, Ysw.

O Allt Fadog, yn Ngheredigon, yn dangos nad oes dim a
geidw goffadwriaeth am Ddyn, wedi angeu, yn well na
gwaith Bardd, ac na ddichon na Cherfiwr na Phaentiwr
roi cystal Portread o Wr ag a rydd Prydydd awenyddol.
Y Cywydd hwn sydd ar ddull HORAS, Lib. IV., Ode VIII.


Donarem pateras grataque, &c.

RHODDWN ariant a rhuddaur,
Rhown yt gawg gemawg ac aur;
I'r cyfeillion mwynion mau
Deuai geinion deganau,

  1. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M. Morys.