Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith, Taliesin hen,
Parodd goffhau Ap Urien;[1]
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael ior[2], ac Ifor gynt;
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid, mae mor gadarn,
Eu hedwi fyth hyd y farn.
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur,
A llyna rodd well na'r aur,
Rhoid eto (nid raid atal)
I fardd, ponid hardd y tâl?
A ddêl o'i Awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.

CYWYDD Y FARN FAWR.

[ODDIWRTH fynych gyfeiriadau y Bardd yn ei Lythyrau, gellir casglu ei fod yn ystyried y Cywydd hwn yn or- chestwaith ei Awen. (Gweler y LLYTHYRAU, tudal. 3,9,10, 11, 12, 13, 16, 17, 52, 64, 65, 66, 67, 74, 80, a 99). Y mae ei noddwr, Lewys Morys, yn ol ei sylwadau ar y gwaith, o'r un syniad; a dyna yn ddiau, ydyw barn mwyafrif edmygwyr yr awdwr ac efrydwyr manwl ei waith. Yr oedd yn mwriad Goronwy ganu arwrgerdd orchestol, fel y dywed yn ei lythyr at William Morris, dyddiedig "May 7, 1752 "; ond daeth helbulon bywyd yn gawodydd mor drymion ar ei ben, fel na chafodd hamdden i ddim ond bwriadu hyn fel llawer cynllun arall o'i eiddo. Pa gyhyd cyn Mai, 1752, y cyfansoddwyd Cywydd y Farn, nid yw'n hawdd dirnad; efallai mai yn nechreu y flwyddyn honno a phan oedd efe yn adfer o glefyd y Cryd fel y dywed yn y LLYTHYRAU,

  1. Urien Rheged.
  2. Llywydd, tywysog.