Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tudal. 12. Bu cryn ymdrafod rhyngddo ef a'i gyfeillion parth argraphu'r cywydd hwn ac eraill, er na ofynid ond dwy bunt neu dair at y gwaith. Gellir casglu oddiwrth rai cyfeiriadau i rhyw lyfryn bychan ymddangos, ond ni nodir hyny mewn modd uniongyrchol. Cyfansoddodd dau fardd Cymraeg arall ar y testyn aruchel hwn, sef Rhys Jones o'r Blaenau, a William Wyn o Langynhafal. Mae gwaith y prif-fardd olaf yn hafal i'r campwaith hwn, os nid yn rhagori arno yn nhanbeidrwydd llachar rhai o'i ddesgrifiadau; ond fod y Gwyn o Glwyd yn canu yn fwy anwastad na'r Du o Fon. Yn y Traethodydd 1876, ceir erthygl gan Dr. Lewis Edwards yn cymharu ac yn cyferbynu y ddau gywydd.

Gwaith Llewelyn Ddu ydyw'r holl Nodiadau Eglurhaol. sydd yn ngodreu'r dail, oddieithr y rhai sydd rhwng [ ].

DOD[1] ym' dy nawdd, a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau[2] f'armerth,[3] o'm nerthyd,
YW DYDD BARN a diwedd byd;
Dyddwaith, paham na'n diddawr,[4]
Galwad i'r ymweliad mawr!


  1. The first two lines are a solemn invocation of the Almighty, desiring his assistance in the prosecution of this work; the two following lines show the groundwork and design of the Poem; and the fifth and sixth lines take occasion to engage the reader's attention from the importance of the subject.
  2. Bwriad.
  3. Yr hyn a ddarperir, neu a gymerir yn llaw; an undertaking.
  4. Dawr and diddawr, it concerns, &c. Pam na'n ddiddawr? hyny yw, Pam y byddwn ddifater o honaw? Pam na bai arnom ofal o'i blegyd? Once for all, I am to let the reader know, that it is not on account of obsoleteness, or obscurity in their meaning, that several words are explained in these notes, but that the British, like all other languages, hath its dialects; and that often what is very well understood in North Wales is not so in South Wales, or in Powys-land, and the contrary: our author therefore hath made use of all the dialects together in this Poem (as Homer hath done in Greek) and sometimes forms compounds, which the loftiness of his subject required, and which may not be very plain to any one of the dialects.