Mab Mair â gair yn gwiriaw
Y dydd, ebrwydded y daw;
A'i Saint cyttun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw'n agoriad in',
Gair Duw, a goreu dewin;
Pan'd'[1] gwirair y gair a gaf ?
Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw—
Boed addas y byd iddaw;
Diwrnod[2] anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f'Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid Ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron[3] dison y daw:
Gwae'r[4] diofal ysmala;
Gwynfyd i'r diwyd ar da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws â lluman[5] Iesu!
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Mal cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrenog,
E rydd Grist arwydd[6] ei grog.
Yno'r Glyw,[7] Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg Nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd[8] y gwynt;
A'i angylion gwynion, gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr[9] nerthol, a dolef,
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch ll'f môr—ryd,
Uwch[10] dyfroedd aberoedd byd.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/45
Prawfddarllenwyd y dudalen hon