Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Try'r Ynad drawi'r wiwnef,
A'i gâd gain â gyd ag ef,
I ganu mawl didawl da,
Oes hoenus! a Hosanna.
Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl IESU!
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen -a nef i minau