Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr a llawen y'm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach, ar ol garwach gur.
Llyw o udd[1] drud, llewaidd draw,
I ni sydd; einioes iddaw;
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog. Ammor[2] iddaw!
Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyrhaedd nefol goron-
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed Trydydd Sior, ein ior ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.
Am a ddywaid, maddeuant
A gais yr awen a gânt
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy ei miloedd tra molynt
Eu noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwârlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles.
Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych.
Uwch llawrydd tragywydd gwych.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/55
Prawfddarllenwyd y dudalen hon