Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Na arhô hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin, e'th ddisgwylir ;
Dwg wisg, deg ael,
Dda-wisg ddiwael;
Dwg urael,[1] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth;
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych,
Gwiwryf gwyros,[2]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn,[3]
Brysia, dos; ber yw oes dyn;
Du'ch ellael,[4] deuwch allan,
Yw'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dwyre[5] i'r Llan, draw o'r llys,
Canweis cenynt
O'th ol i'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd,
Felly gynt fe ae llu gwrdd
I'r Eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi yn rhwydd sicrwydd serch
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[6] i'n hoyw-wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anedd digynil,
Ddogn o fedd, ddigon i fil,
A chipio pib a chwpan
Yw'n cerdd a'n cân.

  1. Urael—lleianwisg deg a drudfawr.
  2. Dail bytholwyrdd.
  3. Ewyn y don
  4. Ael.
  5. Tyred.
  6. Cyfeiriad at hen ddefod Gymreig mewn priodasau. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair heilyn am butler.