Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ARALL.

O'r eiddo ANACREON, 1754.

MAE'N ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dw'r a lwnc daear laith;
Awyr a lwne môr a'i li ;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, f loer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau:
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf!
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.


ODLIG ARALL.

I ANACREON 1754. Proest Cyfnewidiog.

HOFF ar hen yw gwên a gwawd;
Bid llanc ddihadl, drwyadl droed:
Os hen an-nien[1] a naid,
Hen yw ei ben, lledpen llwyd,
A synwyr iau sy'n yr iad.[2]


ENGLYNION.

I ofyn Cosyn Llaeth-geifr gan WILLIAM GRUFFYDD o
Ddrwsycoed yn Eifionydd, dros Domos Huws, mab Huw
ab Ifan o Landygai, oedd yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.


DYNYN wyf a adwaenoch—er enyd,
A yrr anerch atoch;
Rhad a hedd ar a feddoch,
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.


  1. Araf, trwsgl.
  2. Coryn y pen.