5. Unodl Gyrch.
Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd (y mae'n chwith!)
Digyrith da ei giried.[1]
6. Cywydd Deuair hirion.
Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd.
7. Cywydd Deuair byrion—8. Awdl Gywydd—
9. Cywydd Llosgyrnawg.—a 10.Toddaid ynghyd.
Ni bu neb wr,
Rhwyddach rhoddwr:
A mawr iawn saeth ym mron Sion,
Cri a chwynion croch wanwr.
Llawer teulu (llwyr eu toliant,
A'u gwall !) eusus a gollasant,
Sin[2] addiant Sion i'w noddi.
Bu ŷd i'w plith, a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ailgaid yn y weilgi.[3]
11. Gwawdodyn Byr.
Sion o burchwant (os un) a berchid,
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid,
Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.
12. Gwawdodyn Hir.
Chychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth, pa rodd yleni
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer boed achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/72
Prawfddarllenwyd y dudalen hon