13. Byr a Thoddaid.
Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd.
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried[1] mil a'i carodd;
Hap llesol, pwy a'i llysodd?[2]—Duw un—tri,
Ei Geli, a'i galwodd.
14. Hira Thoddaid.
Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd;
A'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,[3]
Da fu y rheol, edifarhaodd.
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[4] â'i Ner,
A Duw, oreu Byw-ner, a'i derbyniodd.
15. Hupynt Byr.
Os tra pherchid
O mawr eurid
am arwredd,
Deufwy cerid
Mwy yr enwid
am ei rinwedd
16. Hupynt Hir.
Am ei roddion,
Hoyw wr cyfion,
A'i 'madroddion,
hir y cofier:
Ei blant grasol,
Gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol,
a fendithier.
17. Cyhydedd Fêr.
Cu hil hynaws, cael o honynt,
Duw'n dedwyddwch, Di'n Dad iddynt;
Yn ymddifaid na 'moddefynt
Gyrchau trawsder; gwarchod trostynt.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/73
Prawfddarllenwyd y dudalen hon