Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

23. Cadwyn Fyr.
Yn iach, wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf, enaid ddoniol.


24. Tawddgyrch Cadwynog, o'r hen ddull gywraint,
fel y canai'r hen Feirdd; ac ynddo mae godidowg
rwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor trwyddo.


Dolur rhydrwm! dramawr benyd,
Boenau dybryd, ebrwydd ddidol:
Dwl Llŷn a llwm, llai mael Gwyndud,
Gan doi gweryd gwr rhagorol:
Dirfawr adfyd, oedfa ddyfryd,[1]
Ddifrif oergryd, fyd anfadol:
Dygn i'w edryd,[2] adrodd enyd,
Ddwyn eu gwynfyd cyd, un cedol.


Arall o'r ddull newydd drwsgl, ar y groes gynghanedd,
heb nemawr o gadwyn ynddo, ac nid yw'r fath yma
amgen na rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr, a
hupynt hir ynglyn a'u gilydd.


Doluriasant, dwl oer eisiau
Ei rinweddau, wr iawn noddol,
Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau, bu waredol:
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol:
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.


  1. Hiraeth
  2. Hir yn adfer