Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD I OFYN FFRANCOD,

Gan WILLIAM FYCHAN,[1] Esq., o Gors-y-Gedol, a Nannau,1754.[2]

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 106, 109.]

Y GWR addwyn, goreuddeddf,
Ni wn wr oll yr un reddf;
Gwr ydych gorau adwaen,
Och b'le y cair un o'ch blaen?
Yn ail i chwi ni welais,
Naws hael, o Gymro na Sais.
Gwr od,[3] Ysgwier, ydych
Ar bawb, a phoed hir y bych,
Ym Meirion lwys, am roi'n lân
Haelaf achau hil Fychan;
Hael yn unwedd, hil Nannau;
Dau enwog hil dinaghau;
Hil glân, a ŵyr heiliaw gwledd,
Blaeniaid ar holl bobl Wynedd,
O chyrchent, rho'ech i eirchiaid
Ddawn a rhodd ddien i'w rhaid;
Ni bu nâg i neb yn ol,
Na gwâd o Gors-y-gedol;
Gwir ys henwi'r Gors hono
Yn Gedol, freyrol[4] fro;
Cors roddfawr, o bwyf awr byw
Un gedol ddinag ydyw;
Gras a hedd yn y Gors hon,
Lle hiliwyd llu o haelion!
Yn y dir[5] 'rwy'n ymddiried,
A gwn y cair ynddi ged;
A ched a archaf i chwi,
A rhwydd y bych i'w rhoddi.

  1. Yr aelod seneddol tros Sir Feirionydd ar y pryd.
  2. Dau hen balas yn Meirion
  3. Rhagorol, "Od o dda"-Llafar Gwlad.
  4. Breyr-barwn
  5. Sicr