A gwelwyd, ben pob Gwyliau,
Mae tycio wnaeth y maeth mau;
Er yn faban gwan gwecry,[1]
Hyd yn iefanc hoglanc hy';
O ddiofal hydd iefanc
Yn wr ffraw,[2]. goruwch llaw llanc.
Ac ar Galan (yn anad
Un dydd) bu'm o wr, yn dad;
Finau ni bu'm yn f'einioes
Eto'n fyr it' o iawn foes.
Melys im' ydoedd moli,
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio ti, Galan,
Ryw geliydd gywydd neu gân.
Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl, buost gedawl gynt;
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf i mor dost?
Rhoddaist im' ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys;
Menaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A dirwayw'r poethgryd eirias, Y
nglŷn â phigyn a phas.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf?
(Bernwch) ai cudab arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm!
Ai cudab[3] yw rhoi codwm,
A chystudd di fudd i f'ais
I'm gwanu am a genais ?
Ar hwrdd[4] os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu;[5]
Diengaist yn rhydd, y Dydd du;
Rhedaist, fal llif rhuadwy
I'r môr, ac ni'th weler mwy;
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/82
Prawfddarllenwyd y dudalen hon