Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.[1]


EPIGRAM

I'w dori ar gaead Blwch Tobacco. 1755.

CETTYN yw'n hoes, medd Cattwg,[2]
Nid ŷm oll onid y mwg
Gan hyn, ys mwg yw'n heinioes,
Da iawn oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwta
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.



DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:

TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.


  1. Tylodi
  2. Cattwg Ddoeth, sant enwog am ei ddysg a'i ddoethineb yn ei flodeu tua dechreu y chweched ganrif. Mae tua phumtheg o Lanau yn Nghymru wedi eu cyflwyno iddo