Gan Ddewi, ag e'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf,
A Chymru o'i ddeutu ddaeth,
I gael y fuddugoliaeth;
Hwyntau, gan lwyddo'u hantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant
Ac urddo'r cenin gwyrddion
Yn goffhâd o'r hoywgad hon,
A bod trwy'n cynnefod ni,
Diolch i DDUW a Dewi.
Dewi fu'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael,
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid[1]
I fynu, Nef i'w enaid,
I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy;
Iwch gael, pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'spêr[2] hyd dir Yspaen,
Cynal câd yn anad neb
Tandwng,[3] yn ddigytuneb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Ffrainc, fal nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals, a'r wan ffydd;
Danod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/90
Prawfddarllenwyd y dudalen hon