Tudalen:Beibl Cyssegr-Lan 01 Intro+Genesis.pdf/23

Gwirwyd y dudalen hon

5 Ac i Lot Hefyd yr hwn aethe gyd ag Abram, yr oedd defaid, a gwarthec, a phebyll.

6 A’r wlâd nid oedd ddigon helaeth iddynt i drigo yng-hyd am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel nad allent drigo yng-hyd.

7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugelydd anifeiliaid Abram, a bugelydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd, a’r Phereziaid oeddynt yna yn trigo yn y wlâd.

8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, na fydded cynnen attolwg, rhyngo fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i, a’th fugeiliaid ti; oherwydd dynion [ydym] ni [sydd] frodyr.

9 Onid yw yr holl dîr o’th flaen di? ymnailltua, attolwg oddi wrthif, os ar y llaw asswy y [troi] minne a droaf ar y ddehau: ac os ar y llaw ddehau, minne [a droaf] ar yr asswy.

10 Yna y cyfododd Lot ei olŵg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy [ydoedd] oll, fel gardd yr Arglwydd, fel tîr yr Aipht, ffordd yr elech di i Soar cyn difetha o’r Sodoma a Gomorra.

11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a fudodd o’r Dwyrain: felly yr ymnailltuasant bôb un oddi wrth ei gilydd.

12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn-ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodoma.

13 A dynion Sodoma [oeddynt] ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymnailltuo o Lot oddi wrtho ef, cyfot dy lygaid, ac edrych o’r lle yr hwn yr ydwyt ynddo, tua’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewyn.

15 Canys yr holl dir yr hwn a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th hâd bŷth.

16 Gosodaf hefyd dy hâd ti fel llŵch y ddaiar, megis os dichon gŵr rifo llŵch y ddaiar, yna y rhifir dy hâd dithe.

17 Cyfot rhodia drwy yr wlâd, ar ei hŷd, ac ar ei llêd; canys i ti y rhoddaf hi.

18 Ac Abram a symmudodd [ei] luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng-wastadedd Mamre, yr hwn [sydd] yn Hebron, ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd.

PEN. XIIII.

Codorlaomer ac eraill yn rhyfela yn erbyn Sodoma. 12 Ac yn dala Lot. 14 Abram yn achub Lot. 18 Melchisedec yn cyfarfod, ac yn bendithio Abram. 22 Abram yn gwrthod golud y Sodomiaid.

A bu yn nyddiau Amraphel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Codorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd,

2 Wneuthur o honynt ryfel a Bera brenin Sodoma, ac a Birsa brenin Gomorra, [a] Sinab brenin Adma, ac [a] Semeber brenin Seboim, ac [a] brenin Bela, honno [yw] Soar.

3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw yr môr heli.

4 Deuddeng mlhynedd y gwasanaethasent Codorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddec y gwrthryfelasant.

5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddec y daeth Codorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai [oeddynt] gyd ag ef, ac a darawsant y Raphiaid, yn Asterothcarnaim, a’r Zusiaid yn Ham, a’r Emiaid yng-wastadedd Ciriathaim.

6 A’r Horriaid yn eu mynydd Seir, Hyd wastadedd Paran, yr hwn [sydd] wrth yr anialwch.

7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno [yw] Cades, ac a darawsant holl wlâd yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oeddynt yn trigo yn Hazezonthamar.

8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodoma, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela honno [yw] Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel a hwynt;

9 A Chodorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraphel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar, pedwar o frenhinoedd yn erbyn y pump.

10 A dyffryn Sidim [oedd] lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodoma, a Gomorra, a ffoasant ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoasant i’r mynydd.

11 Yna y cymmerasant holl gyfoeth Sodoma a Gomorra, ai holl lynniaeth hwynt, ac a aethant ymmaith.

12 Cymmerasant hefyd Lot [nai] fab brawd [i] Abram, ai gyfoeth, ac a aethant ymmaith; o herwydd yn Sodoma yr ydoedd efe yn trigo.

13 Yna y daeth un a ddianghase: ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng-wastadedd, Mamre’r Amoread, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hynny [oeddynt] mewn cyngrair ag Abram.

14 Pan glybu Abram gaeth-gludo ei gâr yna efe a arfogodd oi hyfforddus [weision] y rhai a anesyd yn ei dŷ ef ddau naw, a thrychant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15 Yna yr ymrannodd efe yn eu herbyn hwynt liw nôs, efe ai weision, ac ai tarawodd hwynt ac ai hymlidiodd hwynt hyd Hoba, yr hon [sydd] o’r tu asswy i Ddamascus.

16 Ac efe a ddûg trachefn yr holl gyfoeth, ai gâr Lot hefyd ai gyfoeth a ddug ef trachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

17 Yna brenin Sodoma a aeth allan iw gyfarfod ef, i ddyffryn Safeh hwnnw yw dyffryn y brenin, wedi ei ddychwelyd o daro Codorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai [oeddynt] gyd ag ef.

18 Melchisedec hefyd brenin Salem, a ddûg allan fara, a gwin, ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:

19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd: bendigêdic fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd, a daiar.