Edrychai dro, ond meddwl prudd,
Rhyw feddwl am y bedd,
A daflai dristwch dros ei grudd,
Nes newid lliw ei gwedd;
Dywedai,—"A! y cysgod draw
A ddwg i'm henaid loes,
E dderfydd toc, mae tonn gerllaw,
Fel hyn terfyna oes.
"Ac megys tonn o flaen y gwynt
Yn claddu'r cysgod draw,
Daw angeu—daw, mae ar ei hynt,
Yn fuan hefyd ddaw."
Rhy wir ei gair—anwylyd wen,
A gwen mewn glendid moes,
Ei gyrfa buan ddaeth i ben,
Bu farw 'n mlodau 'i hoes.
CAN I GARIAD.
(Anacreon.)
Cariad unwaith aeth i chwareu
Ar ei daith i blith rhosynau;
Ac yno 'r oedd heb wybod iddo
Wenynen fach yn diwyd sugno.
Wrth arogli o honno'n hoew
Y rhosyn hwn, a'r rhosyn acw;
Y wenynen fach a bigai
Ben ei fys; ac ymaith hedai.
A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn,
A chan y poen ag oedd yn dilyn;
At ei fam y gwnai brysuro,
A'r dagrau tros ei ruddiau 'n llifo.