Ac o'r tir gwelir yn gwau
Gwyn eleirch dan gain hwyliau.
Goror y wybrennog Aran,—ynnot
Mae'r enwog Lyn llydan;
Cronni y lli rhwng pump Llan[1]
Ni elli; rhed afon allan:
Dyfrdwyf! trwy aml blwyf, heb aml blas,— a thref
A thrwy lawer dolfras
Y'th hyrddir, maith y'th urddas,
Draw a mawr glod i'r môr las.
Hawddamawr, Lyn mawr Meirion,—Llyn Tegid,
Neud yndid ei wendon?
Drwyot,[2] er dyddiau'r drywon,
Y rhwyf y Dyfrdwyf ei donn.
Lle bu tref[3] dolef dyli'r—Llyn heddyw,
Llon haddef ni welir;
Mwyniant y pysg ei meini
'R dydd hwn, a'i hystrydoedd hir.
I DANIEL SILVAN EVANS.
(Daniel Las) ar ei fynediad i Goleg Dewi Sant.
Llonna byth o'th fodd yn Llanbedr—asgen
Ni chei; dysg yn hyfedr,
Ac am dy ddysg, a'th gymedr,
Mawl Dduw, nid Pawl, ac nid Pedr.