AMSER.
Tempus edax rerum.—OVID.
Amser a ehed—a ehed—
E a ehed yn gynt,
Na thonn y môr, er cynted rhed—
Yn wyllt o flaen y gwynt.
Amser a ehed—a ehed
Yn gynt na 'r llong ar daith,
Pan yn gyflymaf hi a red
Dros donnau 'r eigion llaith.
Amser a ehed—a ehed—
Yn gynt na'r eryr cryf,
Pan fo â'i esgyll braidd ar led,
Yn disgyn ar ei bryf.
Amser a ched—mawr fy mraw—
Na'r fellten mae yn gynt,
Pan gwylltaf naid o'r dwyrain draw
I'w gorllewinol hynt.
Cyflymach Amser nas gall iaith
Adrodd gyflymed yw;
Ystyriwn bawb gan hynny'n gwaith.
A'r modd y dylem fyw.
Cyflymed ydym ar ein taith
Ag Amser—onid gwir?
Ein cartref Tragwyddoldeb maith,
Lle byddwn bawb cyn hir.
Amser, amser, sydd yn hedeg,
Minnau'n myned gyd âg ef;
I wlad bell yr wyf yn teithio.
Enw hon yw Teyrnas Nef,