Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEIRDD Y BERWYN.

YMBIL SERCHOG.

Ton-"CONSYMSIWN."

WAWR hoew-wedd loew-wedd liw,
Hoff reiol deg i ffriw,
Dy gofio di ai gwiw
I ddyn sy a'i friw 'n i fron?
"Fy nghofio i a gewch chwi 'n rhad,
Os hynny wnai leshad,
Pa beth yw 'ch briw a'ch brad,
I gael gwellhad yn llon?"
Tydi a'm bwriodd i, dyna'r braw,
Ganwyll gwyredd, luniedd law,
Fun dda drwsiad oddi draw,
'Rwy'n druan iawn fy ngwedd.
Gyrru mab a geirie'n awr
Yn glafa un i glwy fo fawr!
Nid eill fy ngwedd, na dull fy ngwawr,
Mo'ch bwrw i lawr i'ch bedd."

Ti a'm bwri i ffwrdd o'r byd,
Lliw eira brafia o bryd,
Fy ngwaith i'n celu cy'd
Fy mhennyd aeth a'm hoes.
"Er clywed mwy na rhi
Och trwm achwynion chwi,
Difater ydwyf fi
Y byddwch lysdi o'ch loes."