Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nychu 'r wy, bun wych o ryw,
Angyles yw fy nghwyn.
"Ymrowch i ddiodde hyd eitha'r nod,
Dan eich clwy, fel dyna 'ch clod,
Ac oni fendiwch cyn troi 'r rhod,
Mi brifia i fod yn fwyn."

Ych mwynder, llawnder lles,
I flysio'n wir a wnes,
Er hyn nid ydw i nes
Na chawn a geres gynt.
Cymerwch galon gre,
A threiwch lan a thre,
Mae dynes dan y ne
I chwithe 'n rhywle ar hynt."
Nid oes yr un eill help i mi,
Netia dynes, ond tydi,
Ti ellesit help i 'nghalon i
Cyn iddi dorri ar dir.
"Cyn torri ffyddlon galon gu,
Mae'n rhaid bod cur a dolur du,
A phoen ar rywun, a phwy na ymry
Pan welo hynny'n hir?"

Ffarwel, nid ydw i ond un,
Gwawr hoew-wedd loew-wedd lun,
Oes dim am einioes dyn
Os daw ymofyn mwy?
"Ni ddichon, moddion maith,
Y lana, yr hoewa 'i hiaith,
Fyrhau mo'ch dyddie a'ch taith,
Na'i hestyn chwaith yn hwy."
Dweyd fy nghwynion heb fod nes,
Hoew gennad, hynny a ges,
Yn llwyr i ti, lliw eira a'r tes,
Bun gynnes deg i gwên;