I mi yn y man mewn llan mae lle,
Yn rhwydd iawn gri rho 'ngweddi gre
Yn daer yn wir ar un Duw'r ne,
I ti rwy'n madde.Amen.
MORUS ROBERTS• a'i cant.
•Y mae Morris ab Rhobert yn un o feirdd a meddylwyr mwyaf dyddorol y cyfnod hwn. Y mae'n ddolen gydiol rhwng y Diwygiad Puritanaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Cafodd ei feddyliau gan Buritaniaid rhan gyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, daethant wedyn yn gynhyrhad ac yn gysur i weithwyr cynharaf y Diwygiad Cymreig.
Bu farw yn 1723. Saer oedd wrth ei grefft; ac y mae awrlais celfydd o'i waith eto 'n mynd ym Mhant Saer, Llanuwchllyn, cartref rhai o'i ddisgynyddion. Yn yr un lle mae Beibl Dr. Parry y dywedir iddo fod yn eiddo iddo ef.
Ysgrifennodd lyfr gweddol helaeth, sef "Cyngor i'r Cymry." Cyhoeddwyd y llyfr yn 1793. yn Nhrefecca, gan William Thomas, gweinidog yr Anibynwyr yn y Bala, trwy gydsyniad fy mrodyr yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid." "Уг oedd yr awdwr yn byw yn y Bala," ebe W. Thomas, "ac mewn amser blin, cyn i'r diwygiad diweddaf dorri allan yn Nghymru; efe a ddioddefodd lawer o ddirmyg er mwyn Crist, a hir gystudd corph cyn ei farwolaeth; ac yn y dyddiau hynny yr ysgrifennodd ef y traethawd canlynol; eithr ei gopi cyntaf o hono a dorrwyd yn ddrylliau gan gyfreithiwr oedd yn byw yn y dre, fel y gorfu arno ei ail ysgrifennu, ac yntau yn nesau i angeu. Ei ddiben pennaf yn ysgrifennu ydoedd i gynghori ei blant i ymofyn am iechydwriaeth i'w heneidiau, ac i amcanu bod yn fendith i'w gydwladwyr ar ol ei farwolacth."
Flynyddoedd wedi hynny, priododd un o'i blant, sef Margaret Morris, John Evans o'r Bala.
Mae peth o waith prydyddol Morris ab Rhobert wedi ei gyhoeddi, ar ddiwedd Cyngor i'r Cymry," ac yn y "Blodeugerdd." Argraffwyd ei Gywydd Llyn Tegid, yn cyfflybu tonne'r llyn i dragwyddoldeb" yn 1748 ac yn 1770.