GWRANDEWCH FY MRYD.
Ton—"GWEL YR ADEILAD."
GWRANDEWCH fy mryd, fy mrodyr,
Gwyn deilwng ar ol dolur,
A chur di—chware;
Mi ymroiswn, mi fum ry—swrth,
Nes cael y nharo yng—ngwrth
Ym mron ange.
Mi ges yn ysig imi a wnes,
Fy nodi â'r wialen
Gan Dduw fy mherchen,
Am fyw mor llawen, llwyr angen felly yr es;
A'n rhoi yn ol drachefen
Er 'lusen a mawr les.
O'r blaen ni choelien mwy na Chain
Fod Duw yn canfod
Pob dirgel bechod,
Er sen cydwybod ni rown er ddiwrnod ddraen,
Fy nghalon aeth yn gwbwl a'i meddwl fel y maen.
Yrwan Duw sy'n trefnu
Modd eilweth i'w meddalu
Rhag mwy o ddialedd;
Mawr foliant iddo'n wastad,
Pwy welodd fyrdra i gariad
O'i fawr drugaredd?
Fy rhoi yn drist heb allu ymdroi,
Ymron fy symud
I'r farn ddychrynllyd
Fy nharo i hefyd un ffunud heb le i ffoi;
I edrych beth i wneuthyd,
Oedd yn y mryd i ymroi;
A m'fi yn llesg, a'm dagrau'n lli,
Yn brudd atebes,
"Fi a beches,"