Tudalen:Beirdd y Berwyn 1700-1750.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

LLENORION Cymru nid oes odid gyfnod mor dywyll a hanner cyntaf y ganrif cyn y ddiweddaf. Pa feirdd oedd yn canu rhwng Huw Morus a Goronwy Owen? Beth genid rhwng carol olaf Huw Morus, tua 1700, ac emynnau cyntaf Williams Pant y Celyn, tua 1750? Nid ydys i ddisgwyl dim arwrol iawn mewn barddoniaeth, oherwydd cyfnod o orffwys rhwng dau chwyldroad ar fywyd oedd. Yr oedd llanw'r chwyldroad Puritan- aidd wedi treio, yr oedd llanw'r Diwygiad Methodistaidd heb ddechreu dod i mewn. Adeg dawel ddigynnwrf oedd, adeg distyll y don. Eto, pan oedd ton awen fel pe'n farw ar y traeth, heb wybod pa un ai ymlaen ai yn ol yr ai, y mae adlais yn y distawrwydd ei hun,—adlais hiraethlawn am y bywyd a fu; adlais proffwydol am llanw oedd i ddod.

Meddyliais mai derbyniol fyddai cyfrolau i ddangos am beth y cenid yng ngwahanol rannau Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Daw cyfrol o waith beirdd Arfon, beirdd Mon, beirdd Hiraethog, beirdd Ceredigion, beirdd Dyffryn Tywi, beirdd Dyfed, beirdd Morgannwg, ac eraill. I ddechreu wele waith beirdd y Berwyn, beirdd y wlad o fynyddoedd meithion unig rhwng Dyfrdwy a Hafren, y rhai y saif y Bala, Llanfyllin, Llanrhaiadr, Rhiwabon, Llangollen a Chorwen ar eu hymylon. Ceir yn y beirdd hyn lawer adlais of Huw Morus, ac ambell linell i'n hadgofio mai yr