Tudalen:Beryl.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

hynny. Gwyddai hi rywbeth am gerddoriaeth. Yr oedd ei phriod, y diweddar Dr. Mackenzie,—efallai y gwyddent am ei enw, —yn gerddor o fri, ac yr oedd ei gyfeillion ef o hyd yn gyfeillion iddi hi. Yr oedd wedi holi eu hanes hwy ar ôl yr Eisteddfod, a gwyddai mai amddifaid oeddynt, a'u bod wedi eu dwyn i fyny'n ofalus, a'u bod yn nodedig o ddewr, a phobl yr ardal i gyd yn edrych i fyny atynt. Ac yn awr yr oedd am ofyn ffafr ganddynt. A gâi hi'r fraint o ofalu am addysg Miss Nest? Yr oedd wedi trefnu'r cwbl yn ei meddwl. Gwyddai am athro llais heb ei ail yn Llundain. Diau y byddai eisiau dysgu pethau eraill arni. Gwyddai am rai i wneud hynny hefyd. Ei dymuniad oedd rhoi'r addysg orau i Miss Nest i'w pharatoi at fod yn gantores fyd-enwog. Beth a ddywedent eu dwy am hyn?

Edrychodd Beryl yn syn o'i blaen am funud, ac yna ar ben euraid Nest yn ei hymyl. Crynai ei gwefusau er ei gwaethaf, ac yr oedd ei llygaid yn llaith pan atebodd:

Yr ydych yn garedig iawn, ac yr ydym yn diolch o galon i chwi. Gallwn ddweud hynny, beth bynnag. Y mae brawd gennym. Gwell iddo yntau glywed eich cynnig caredig. Galw ar y tri, Nest fach."