cartref gennym yn awr. Byddwn yn un teulu mwy, a bydd aelwyd ein hunain gennym i ddyfod yn ôl iddi o bobman."
"Y mae rhywbeth yn dyfod i wasgaru pob teulu, hwyr neu hwyrach," ebe Eric.
"Pe bawn i wedi mynd i siop esgidiau yn Llanilin, gallem fyw yma gyda'n gilydd am amser hir a thalu'n ffordd yn iawn," ebe Nest. A cholli dy gyfle," ebe Eric. "Ni buaset yn well na rhyw ferch arall o'r ardal yma. Buaset yn waeth,—wedi cael talent ac wedi ei chuddio."
"O Eric!" ebe Nest.
"Gwell inni adael y peth heno," ebe Beryl. "Dewch i siarad am rywbeth arall. Efallai y gwelwn bethau'n gliriach yn y bore."
"Efallai y daw golau yn y nos," ebe Nest, a chwerthin â'i llais melodaidd.
"Efallai y byddaf fi yn Llundain yn y gwanwyn," ebe Eric.
"Ti yn Llundain !" ebe'r ddwy.
"Ie, ar fy ffordd i Baris."
"Da di, bydd ddistaw, Eric," ebe Nest. "Y mae'n eithaf gwir. Dywedodd Mr. Hywel ddoe o flaen Stan Powel, wedi imi ddarllen a chyfieithu llythyr Ffrangeg iddo, a Stan wedi methu, Dyma'r bachgen sydd i ddod gyda mi i Baris yn y gwanwyn."