Tudalen:Beryl.djvu/108

Gwirwyd y dudalen hon

nesaf. Yr oedd am lythyr yn ôl gyda'r troad, a phob newyddion ynddo. Yr oedd hi'n eithaf hapus. Byddai'n dyfod adref dros y Nadolig.

Am beth amser ar ôl hyn, cael llythyr oddi wrth Nest oedd prif ddigwyddiad y dyddiau ym Maesycoed. Ond ymhell cyn y Nadolig, daeth rhywbeth arall a yrrodd hyd yn oed Nest a'i hamgylchiadau i'r cysgod.

Un hwyr, sylwodd Beryl fod golwg ofidus ar Eric pan ddaeth i'r tŷ. Tynnodd ei gôt a'i gap fel arfer, a daeth at y tân heb wneud fawr sylw o Geraint ac Enid. Yn lle hynny, cymerodd lyfr a mwmian canu wrth edrych arno. Ar yr un pryd yr oedd fflam yn ei lygaid. Gwyddai Beryl, heb holi, fod rhyw- beth yn ei flino. Ni thwyllid hi gan y canu. Dyna ffordd rhai pobl o geisio cuddio'u blinderau oddi wrth eraill ac oddi wrthynt eu hunain.

Wedi i Geraint ac Enid fynd i'w gwelyau, gofynnodd Beryl :

"A oes rhywbeth wedi digwydd, Eric?"

Pam 'rwyt ti'n gofyn?"

"Gwn er pan ddaethost i'r tŷ fod rhywbeth yn dy flino. Beth sydd?"

O, wel, dim o bwys. Nid yw'n werth sôn amdano."