Beryl fod gyda'i thad yng nghartref y plant pan ddaethpwyd i gyrchu Idwal, y baban dwyflwydd oed. Tra fyddai byw, nid anghofiai mo'r gwahanu hwnnw. Yr oedd y tad a'r fam newydd yn bobl dyner a charedig, ac nid Idwal a wylai. Ei frawd bychan a'i chwaer oedd ar dorri eu calonnau.
Un dyner-galon iawn oedd Beryl. Methai â gollwng y tri bychan o'i meddwl. Enbyd oedd gweld eu gwasgaru. Pam na allesid cael rhywun i'w magu gyda'i gilydd? Dechreuodd ddychmygu amdani ei hun yn gwneud rhan mam â hwynt, yn byw gyda hwynt yn eu cartref yn y Gelli. Dyna ddiwyd a hapus y byddai! Dyna hoff ohoni y byddai'r tri phlentyn! Dyna lân y byddai'r tŷ! Fe'i gwelai ei hun yn cario Idwal i'w wely, ei freichiau tewion yn dynn am ei gwddf. Fe'i gwelai ei hun ar brynhawnau yn mynd ag ef yn ei gerbyd bach, a Lil yn cerdded wrth ei hochr, i gwrdd â Gwilym yn dyfod o'r ysgol. Fe'i gwelai ei hun yn dysgu a hyfforddi'r tri bach, a hwythau bob amser yn ufudd iddi ac yn barchus ohoni. O ba le y deuai'r arian? Ni ddaethai hynny na dim anhyfryd arall i gymylu'r breuddwyd.
Arhosodd y breuddwyd gyda Beryl am ddyddiau, wythnosau, a misoedd. Pan fyddai