Tudalen:Beryl.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

"O! Yr wyt yn meddwl y gelli ei dwyllo yntau, a gwneud sôn a helynt, a llusgo enw'r siop a'n henwau ninnau drwy'r llaid !"

Dywedodd Mr. Hywel lawer o bethau eraill yn ei dymer. Ni wyddai beth i'w wneud. Petai'r arian heb eu cael, gellid chwilio a holi. Ond dyna'r peth wedi ei ddatguddio mewn ffordd mor rhyfedd. Y pwnc oedd beth i'w wneud â'r troseddwr. Mab yr hen weinidog o bawb !

"Mr. Hywel, ni wn i ddim am y peth," ebe Eric eto.

"Ewch chwi eich tri adref," ebe Mr. Hywel wrth y lleill, heb sylwi ar eiriau Eric, "a gofelwch na ddywedoch air am y peth wrth neb. Cofiwch, 'nawr, Stanley a Bil! Os clywaf fi sôn am hyn gan neb o'r tu allan, gwyliwch ! "

Aeth y tri'n ddistaw.

Nawr, Eric, dyma gyfle iti gyffesu'r cwbl wrthyf fi pan nad oes neb yn clywed. A wyt ti wedi bod yn brin o arian neu beth?" ebe Mr. Hywel. Yr oedd y gwylltineb ofnadwy eisoes wedi cilio o'i lais.

Ond yr oedd y ffaith fod Mr. Hywel yn credu ei fod ef wedi dwyn arian fel pe wedi parlysu meddwl Eric. Yr oedd ei hen syniad parchus am ei feistr wedi ei ddryllio. Os oedd