Tudalen:Beryl.djvu/118

Gwirwyd y dudalen hon

Gwelodd Beryl nad oedd troi arno. Nid oedd yn siwr ei bod hithau am iddo fynd yn ôl, ond beth a ddeuai ohonynt? Yn y tŷ y bu Eric ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn ei ystafell wely fel petai'n sâl. Ni ddaeth neb i holi amdano. Gellid meddwl nad oedd neb wedi gweld ei eisiau.

Bore dydd Iau, aeth Beryl, heb yn wybod i Eric, i Lanilin i weld Mr. Hywel. Yr oedd yn rhaid i rywun wneud rhywbeth. Y mae dynion,—hen ac ieuainc,—yn aml yn debyg iawn i blant. Rhaid i'r fenyw,—y fam neu'r wraig, neu'r chwaer, fel y digwydd, feddwl trostynt a'u harwain.

Ychydig a a ddywedasai Beryl, ond ni theimlasai Mr. Hywel mor anghysurus wrth siarad â neb erioed. Dywedodd wrtho, ac edrych arno â'i llygaid clir, fod Eric, a hithau hefyd, wedi eu clwyfo'n enbyd gan ei eiriau gwyllt ef wrth Eric, a'i amheuaeth o'i onestrwydd. Ni allai Eric feddwl am ddyfod yn ôl, ac nid oedd hi'n ei feio am hynny. Gobeithiai y byddai Mr. Hywel mor garedig â'i helpu i gael lle arall trwy roi gair da iddo pan ofynnid am hynny.

Ni thaerodd Beryl fod ei brawd yn ddieuog. Ni ofynnodd i Mr. Hywel am chwilio a mynnu gwybod y gwir. Ni cheisiodd feio neb o'r